Newid cyflenwyr ynni
Trwy newid cyflenwr neu newid eich tariff tanwydd, gallech o bosib arbed cannoedd o bunnau y flwyddyn. I gymharu tariffau, mae angen i chi wybod faint rydych yn ei dalu am eich ynni nawr. Ewch i dri safle cymharu tariffau o leiaf, a nodwch eich manylion yno i weld faint fedrech ei arbed. Os ydych yn poeni am brisiau yn codi yn y dyfodol, efallai yr hoffech amddiffyn eich hun trwy ddewis tariff ynni pris sefydlog. Mae tariff fel hyn yn gwarantu na fydd y pris rydych yn ei dalu am eich ynni yn cynyddu dros gyfnod o amser, fel rheol 1-3 blynedd. Unwaith rydych wedi cael hyd i’r cyflenwr rhataf, mae newid yn hawdd. Yr unig beth sydd yn rhaid i chi ei wneud yw cwblhau rhai manylion personol. D.S. Dylech sicrhau eich bod yn cymryd eich nwy a’ch trydan gan yr un cyflenwr, er mwyn manteisio ar ddisgownt tanwydd deuol.
Newid i Ddebyd Uniongyrchol
Mae llawer o gwmnïau ynni yn cynnig disgownt i gwsmeriaid sy’n talu gyda Debyd Uniongyrchol. Cysylltwch â’ch cwmni ynni i weld os ydynt yn cynnig y disgownt hwn.
Cymerwch ddarlleniadau mesurydd yn rheolaidd
Os nad yw eich mesyryddion yn cael eu darllen yn rheolaidd, mae biliau sy’n seiliedig ar amcangyfrif yn golygu y medrwch dalu am fwy nag yr ydych yn ei ddefnyddio mewn gwirionedd. Mae darllen eich mesurydd yn rheolaidd a diweddaru eich cyflenwr hefyd yn caniatáu i chi gadw llygad ar yr hyn rydych yn ei ddefnyddio a thorri i lawr os oes angen.