Mae rhai enghreifftiau o gymorth tai yn cynnwys:
• Help gyda rheoli chyllidebu a thalu eich biliau
• Trefnu pethau yn eich cartref
• Cael mynediad at gyngor a chymorth ar fudd-daliadau
• Cael mynediad at amrywiol wasanaethau
• Datblygu sgiliau ymarferol byw
• Cael mynediad at hyfforddiant, addysg a chymorth gyda diweithdra
Yn Nhorfaen, mae yna nifer o wasanaethau ar gael i helpu pobl ifanc gyda thai, yn arbennig y rheiny all fod yn profi anawsterau o ganlyniad i’w hamgylchiadau. Gall hyn gynnwys colli’ch cartref, cam-drin domestig, iechyd meddwl, defnydd sylweddau, anabledd neu ymddygiad troseddol.
Mae cefnogaeth ar gael i drigolion Torfaen sydd dros 16 oed ac mae ar gael yn eich cartref neu mewn lle diogel os ydych chi’n dymuno.
Sut i gael cymorth
Porth
Os ydych yn chwilio am gymorth, medrwch gysylltu â’r Porth, a fydd yn eich helpu i gael hyd i’r cymorth mwyaf addas ar gyfer eich amgylchiadau. Gellir cysylltu gyda’r Porth ar 01495 766949 neu drwy e-bostio Gateway@torfaen.gov.uk
Os yw eich sefyllfa yn un brys ac rydych angen cymorth neu gymorth ar unwaith, yna gall y cymorthfeydd galw heibio canlynol eich helpu. Nid oes angen gwneud apwyntiad, medrwch alw heibio ar y dydd.